Episode 87
Irate 7: Yr Ola o'r Wyth
June 8th, 2023
19 mins 24 secs
Season 1
Your Hosts
Tags
About this Episode
Dyma stori yr Irate Eight: Bae Colwyn, Bangor, y Barri, Caernarfon, Casnewydd, y Drenewydd, Merthyr, a'r Rhyl.
Mewn cyfres arbennig gan bodlediad Sgorio fyddwn ni’n olrhain hanes ein cynghrair cenedlaethol, a’r wyth clwb cafodd yr alwad i ddychwelyd i Gymru yn 1992. Fe glywn ni wrth y cefnogwyr a’r chwaraewyr oedd yno ar y pryd, newn ni ddilyn hanes yr wyth clwb hyd heddiw, a gofyn shwt ma pethe am newid i’r clybiau yn y dyfodol.
Roedd 2019 yn flwyddyn fawr i rai o aelodau gogleddol yr Irate Eight, gyda Bae Colwyn yn penderfynu dychwelyd i Gymru, a chefnogwyr Bangor yn dechrau clwb protest - Bangor 1876. Blwyddyn yn ddiweddarach bu rhaid i gefnogwyr y Rhyl ddechrau clwb newydd hefyd...
Diolch i holl gyfrannwyr y gyfres am eu hamser nhw – eu stori nhw yw hwn.
This is the story of the Irate Eight: Colwyn Bay, Bangor, Barry, Caernarfon, Newport, Newtown, Merthyr, and Rhyl.
In a special series by the Sgorio podcast we trace the history of our national league, and the eight clubs that were called to return to Wales in 1992. We will hear from the fans and players who were there at the time, we will follow the story of the eight clubs up to this day, and ask what the future holds in store.
2019 was a big year for some of the northern members of the Irate Eight, with Colwyn Bay deciding to return to Wales, and Bangor fans starting a protest club - Bangor 1876. A year later Rhyl fans also had to start their own new club...
Thanks to all the contributors to the series for their time - this is their story.