Pod Sgorio
Episode Archive
Episode Archive
145 episodes of Pod Sgorio since the first episode, which aired on August 18th, 2021.
-
Pod 33: Mike Harris, Cadeirydd Y Seintiau Newydd
April 13th, 2022 | 38 mins 8 secs
Pod 33: Mike Harris, Cadeirydd Y Seintiau Newydd
Dyma gyfle am sgwrs hir rhwng cadeirydd Y Seintiau Newydd, Mike Harris a chyflwynydd Sgorio, Dylan Ebenezer.
Mae’r ddau yn trafod dyfodol y pyramid Cymreig, Pêl-droed Ewropeaidd ac ail ennill y bencampwriaeth yn ôl o Gei Connah.
Mwynhewch! -
Pod 32: Mark Jones yw gwestai Dylan Ebenezer wrth iddyn nhw edrych ar y ras am Ewrop a'r ras i osgoi'r cwymp
April 6th, 2022 | 29 mins 53 secs
Pod 32: Mark Jones yw gwestai Dylan Ebenezer wrth iddyn nhw edrych ar y ras am Ewrop a'r ras i osgoi'r cwymp
-
Pod 31: Flippin' 'eck, Cymru C a holl ymateb Cymru v Tsiec
April 1st, 2022 | 32 mins 53 secs
Pod 31: Flippin' 'eck, Cymru C a holl ymateb Cymru v Tsiec
-
Pod 30: Cymru v Awstria. Yr ymateb
March 25th, 2022 | 28 mins 17 secs
Yr ymateb i gyd o Cymru v Awstria wedi noson arbennig yn Stadiwm Dinas Caerdydd
-
Pod 29: John Hartson
March 14th, 2022 | 57 mins 34 secs
Pod 29: John Hartson
Nicky John a Dylan Ebenezer sy'n dal fyny gyda chyn ymosodwr Celtic, Arsenal a Chymru cyn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle am le yng Nghwpan y Byd 2022 rhwng Cymru ac Awstria. -
Pod 28: Waynne Phillips
March 9th, 2022 | 41 mins 16 secs
Waynne Phillips sy’n ymuno â Sioned a Dylan i drafod Wrecsam, Cymru ‘C’ a’r Cymru Premier
-
Pod 27: Owain Fôn Williams a'r Tartan Army Cymreig
March 3rd, 2022 | 37 mins 44 secs
Cyfle i glywed gan Tyler Roberts a Dan James, y Cymry sy'n serenu yn Leeds, Owain Fôn Williams sy’n trafod aelodauo garfan Rob Page sy’n chwarae eu pêl-droed yn yr Alban a chyfle i edrych 'mlaen at ein gêm fyw nos Wener rhwng Y Fflint a'r Seintiau Newydd.
-
Pod 26: Marc Lloyd Williams a Sean Eardley
February 23rd, 2022 | 44 mins 58 secs
-
Pod 25: Rownd Wyth Olaf Cwpan Cymru JD
February 15th, 2022 | 45 mins 57 secs
Bydd Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer yn cael cwmni Mael Davies, Steve Evans a Greg Draper gan edrych ymlaen at benwythnos cyffrous yng Nghwpan Cymru.
-
Pod 24: Gemma Grainger
February 9th, 2022 | 48 mins 53 secs
Sgwrs arbennig gyda rheolwr Cymru, Gemma Grainger.
Bydd Gemma Grainger yn ymuno â Sioned Dafydd a Dylan ebenezer i edrych nôl ar ei blwyddyn gyntaf wrth y llyw fel rheolwr tîm rhyngwladol y merched ac yn edrych ‘mlaen at flwyddyn cyffrous i bêl-droed Merched yng Nghymru.
Bydd Cymru yn cystadlu yn y Pinatar Cup yn Sbaen ym mis Chwefror cyn parhau a’u hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2023 gyda gêm fawr yn erbyn Ffrainc i ddod ym mis Ebrill.
Croeso i’r pod!
-
Pod 23: Cup fever! Rhagolwg Rownd Derfynol Cwpan Nathaniel MG
February 2nd, 2022 | 38 mins 44 secs
Croeso i pod 23!
Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd sy’n trafod y ffenestr drosglwyddiadau wrth i rai o brif sêr Cymru ymuno â chlybiau newydd. Cawn ymateb o Aberystwyth ar ôl i’r clwb chwarae eu milfed gêm yn yr Uwch Gynghrair.
Byddwn hefyd yn edrych ymlaen at rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG brynhawn Sul wrth i Adam Roscrow o’r Met ac Aeron Edwards o Gei Connah ymuno â ni ar y pod. 06/02 – Met Caerdydd v Cei Connah – yn fyw ar S4C am 1.45
-
Pod 22: Golwg ar y Cymru Premier
January 28th, 2022 | 41 mins 7 secs
Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer sy’n talu sylw i’r Cymru Premier yn y bennod ddiweddaraf o’r bodlediad gan edrych ymlaen at Y Bala v Y Drenewydd yn fyw nos Wener.
-
Pod 21: Gwyn Derfel
January 20th, 2022 | 41 mins 13 secs
Gyda’r uwch gynghrair yn dychwelyd dros y penwythnos, Gwyn Derfel, rheolwr cyffredinol y Cymru Premier sy’n ymuno â Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer i drafod datblygiadau diweddar o fewn y gynghrair.
-
Pod 20: Goreuon 2021
December 27th, 2021 | 34 mins 6 secs
Goreuon 2021
Cyfle i wrando nôl ar bigion gorau o’r pod dros y misoedd diwethaf yng nghwmni Sioned a Dylan
-
Pod 19: Rob Page
December 21st, 2021 | 33 mins 36 secs
Rheolwr Cymru, Robert Page sy’n ymuno â Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd ar gyfer ein podcast Nadoligaidd arbennig.
Dyma gyfle i drafod y flwyddyn a fu ac i ddod i adnabod y gŵr o’r Rhondda yn well.
Mwynhewch a Nadolig Llawen!
-
Pod 18: Rhys Griffiths
December 16th, 2021 | 35 mins 35 secs
Croso i pod rhif 18!
Rhys Griffiths sy'n ymuno â Dylan a Sioned am sgwrs i drafod tymor Pen-y-bont hyd yma, gobeithion Ewropeaidd y clwb a'i yrfa llwyddiannus fel chwaraewr.
Cyfle hefyd i glywed gan tri gwr doeth Y Seintiau Newydd wrth i Leo Smith rhoi gwers Cymraeg i Anthony Limbrick a Declan McManus.
'Steddwch nôl a mwynhewch!