Pod Sgorio
Episode Archive
Episode Archive
142 episodes of Pod Sgorio since the first episode, which aired on August 18th, 2021.
-
Pod 14: Cymru yn cyrraedd y gemau ail gyfle a phêl-droed y canolbarth
November 17th, 2021 | 38 mins 43 secs
Pod 14: Gemau ail gyfle Cwpan y Byd a phêl-droed y canolbarth
Cyfle i edrych nôl ar wythnos fawr i Gymru wrth i’r tîm rhyngwladol gyrraedd gemau ail gyfle Cwpan y Byd 2022.
Bydd ymosodwr Y Drenewydd, James Davies yn ymuno â Dylan a Sioned i drafod tymor y Robiniaid a phêl-droed canolbarth Cymru.
-
Pod 13: Ashley Williams
November 10th, 2021 | 50 mins 46 secs
Ashley Williams sy'n edrych ymlaen at Gemau Rhagbrofol Cwpan Y Byd yn erbyn Belarws a Gwlad Belg gyda Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer.
-
Pod 12: Mis Hydref yn y Cymru Premier gyda Mark Jones
November 3rd, 2021 | 39 mins 43 secs
Rheolwr Cymru C ac un o leisiau’r botwm coch, Mark Jones sy’n edrych nôl ar ddigwyddiadau mis Hydref yn y Cymru Premier gyda Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer.
Cawn hefyd gyfle i glywed gan reolwr Cymru, Robert Page ar ôl iddo gyhoeddi ei garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 ym mis Tachwedd.
-
Pod 11: Andy Morrison
October 27th, 2021 | 58 mins 7 secs
Andy Morrison
Rheolwr y Tymor 2020/21 sy’n ymuno â Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer am sgwrs hir yn edrych dros ei yrfa bêl-droed.
Cawn gyfle i glywed am ei amser fel chwaraewr gyda Blackburn, Blackpool a Man City, a’i amser fel un o reolwyr gorau’r Cymru Premier dros y blynyddoedd diwethaf.
-
Pod 10: Huw Griffiths ac Aaron Williams
October 21st, 2021 | 44 mins 27 secs
Cyfle i edrych nôl ar holl hynt a helynt pedwaredd rownd Cwpan Cymru gyda Dylan a Sioned wrth i Bod Sgorio cyrraedd ei 10fed pennod.
Bydd ymosodwr Y Drenewydd, Aaron Williams â rheolwr Caernarfon, Huw Griffiths yn ymuno a ni cyn i'r ddau dîm gwrdd â'i gilydd yn y gynghrair penwythnos yma.
-
Pod 9: 4 pwynt oddi cartref i Gymru a Bae Colwyn yn y gwpan
October 14th, 2021 | 37 mins 49 secs
Cyfle i edrych nôl ar wythnos ryngwladol arall gyda Dylan a Sioned a chyfle i edrych ‘mlaen at benwythnos o bêl-droed Cwpan Cymru.
Bydd Craig Hogg, rheolwr Bae Colwyn yn ymuno â ni cyn i Fae Colwyn wynebu Met Caerdydd ym mhedwaredd rownd y gwpan.
-
Pod 8: David Edwards
October 6th, 2021 | 48 mins 26 secs
Sgwrs arbennig gyda David Edwards, cyn-chwaraewr canol cae Cymru cyn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd mis Hydref.
Bydd Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd yn trafod ei amser gyda’r tîm rhyngwladol, gobeithion Cymru ar gyfer y gemau rhagbrofol a’i amser gyda’r Bala yn y Cymru Premier.
-
Pod 7: Cwpan Cymru ac ymddiswyddiad Andy Morrison
September 29th, 2021 | 46 mins 35 secs
Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer yn trafod ymddiswyddiad Andy Morrison yng nghwmni’r sylwebydd Mark Jones.
Cawn glywed hefyd gan reolwr Cymru, Robert Page, prif weithredwr CBDC, Noel Mooney, a rheolwr Y Fflint, Neil Gibson.
-
Pod 6: Cyfweliad gyda'r Prif Weithredwr!
September 24th, 2021 | 35 mins 45 secs
Cyfweliad arbennig gyda Phrif Weithredwr Y Gymdeithas Bêl-droed, Noel Mooney a chyfle i edrych mlaen i drydedd rownd Cwpan Cymru gydag Andy Morrison, rheolwr Cei Connah a Richard Ryan, rheolwr Trefelin.
Am y tro cyntaf erioed, bydd camerâu byw Sgorio ar Barc yr Ynys, wrth i'r tîm o'r ail haen yn y de groesawu Pencampwyr yr Uwch Gynghrair. Trefelin v Cei Connah yn fyw ar S4C ddydd Sadwrn 25/09/21 am 12.30
-
Pod 5: Gavin Chesterfield (Y Barri) ac Anthony Limbrick (YSN)
September 15th, 2021 | 36 mins 52 secs
Cyfle i drafod y tymor Cymru Premier JD gyda rheolwr Y Barri, Gavin Chesterfield sydd wedi torri record y clwb am y nifer fwyaf o gemau wrth y llyw gyda 491 gêm.
Cawn hefyd gyfle i glywed gan Anthony Limbrick, rheolwr Y Seintiau Newydd gan edrych nôl ar y gemau Ewropeaidd yr haf a'i obeithion am y tymor.
Croeso i Pod Sgorio.
Y Seintiau Newydd v Y Barri – yn fyw ar S4C nos Sadwrn am 5.
-
Pod 4: Wythnos ryngwladol Medi '21
September 9th, 2021 | 32 mins 52 secs
Cyfle i edrych nôl ar gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 mis Medi a rhagolwg o’r gemau yn y Cymru Premier dros y penwythnos.
Bydd camerâu Sgorio yn fyw ar Goedlan y Parc ddydd Sadwrn, gydag Aberystwyth yn croesawu Met Caerdydd. Cawn glywed gan reolwr Aberystwyth, Antonio Corbisiero ac amddiffynnwr Met Caerdydd, Emlyn Lewis.
-
Pod 3: Awst 2021 yn y Cymru Premier gyda Mark Jones, rheolwr Cymru C
September 2nd, 2021 | 30 mins 43 secs
Rheolwr Cymru C ac un o leisiau’r botwm coch, Mark Jones sy’n taro golwg ar ddigwyddiadau mis Awst yn y Cymru Premier.
Cyfweliad arbennig gydag MJ Williams, chwaraewr canol cae Bolton sy’n trafod dylanwad y Cymry ar y garfan ac edrych nôl ar y gêm gyfeillgar rhwng Y Ffindir a Chymru.
-
Pod 2: Owain Fôn Williams
August 26th, 2021 | 51 mins 38 secs
bale, cymraeg, cymru, football, fwtbol, gareth, gareth bale, peldroed, pod, podcast, s4c, sgorio, soccer, sports, wales, welsh
Cyhoeddi Carfan Cymru ar gyfer gemau mis Medi, Gareth Bale yn sgorio yn La Liga am y tro cyntaf ers Medi 2019 i Real Madrid a’r Fflint yn fflio yn y Cymru Premier. Ein gwestai arbennig yw golwr Dunfermline a Chymru, Owain Fôn Williams.
-
Pod 1: Croeso i'r Pod! Penwythnos agoriadol tymor 2021/22
August 18th, 2021 | 31 mins 6 secs
Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer sy'n cyflwyno Pod cyntaf Sgorio. Golwg ar benwythnos agoriadol y Cymru Premier a cip ar y Cymry ar draws y cynghreiriau