Pod Sgorio

Podlediad Sgorio

About the show

Y gorau o gampau’r Cymry ar draws y cynghreiriau pêl-droed, croeso i Pod Sgorio.

Pod Sgorio on social media

Episodes

  • Pod 25: Rownd Wyth Olaf Cwpan Cymru JD

    February 15th, 2022  |  45 mins 57 secs

    Bydd Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer yn cael cwmni Mael Davies, Steve Evans a Greg Draper gan edrych ymlaen at benwythnos cyffrous yng Nghwpan Cymru.

  • Pod 24: Gemma Grainger

    February 9th, 2022  |  48 mins 53 secs

    Sgwrs arbennig gyda rheolwr Cymru, Gemma Grainger.

    Bydd Gemma Grainger yn ymuno â Sioned Dafydd a Dylan ebenezer i edrych nôl ar ei blwyddyn gyntaf wrth y llyw fel rheolwr tîm rhyngwladol y merched ac yn edrych ‘mlaen at flwyddyn cyffrous i bêl-droed Merched yng Nghymru.

    Bydd Cymru yn cystadlu yn y Pinatar Cup yn Sbaen ym mis Chwefror cyn parhau a’u hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2023 gyda gêm fawr yn erbyn Ffrainc i ddod ym mis Ebrill.

    Croeso i’r pod!

  • Pod 23: Cup fever! Rhagolwg Rownd Derfynol Cwpan Nathaniel MG

    February 2nd, 2022  |  38 mins 44 secs

    Croeso i pod 23!

    Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd sy’n trafod y ffenestr drosglwyddiadau wrth i rai o brif sêr Cymru ymuno â chlybiau newydd. Cawn ymateb o Aberystwyth ar ôl i’r clwb chwarae eu milfed gêm yn yr Uwch Gynghrair.

    Byddwn hefyd yn edrych ymlaen at rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG brynhawn Sul wrth i Adam Roscrow o’r Met ac Aeron Edwards o Gei Connah ymuno â ni ar y pod. 06/02 – Met Caerdydd v Cei Connah – yn fyw ar S4C am 1.45

  • Pod 22: Golwg ar y Cymru Premier

    January 28th, 2022  |  41 mins 7 secs

    Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer sy’n talu sylw i’r Cymru Premier yn y bennod ddiweddaraf o’r bodlediad gan edrych ymlaen at Y Bala v Y Drenewydd yn fyw nos Wener.

  • Pod 21: Gwyn Derfel

    January 20th, 2022  |  41 mins 13 secs

    Gyda’r uwch gynghrair yn dychwelyd dros y penwythnos, Gwyn Derfel, rheolwr cyffredinol y Cymru Premier sy’n ymuno â Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer i drafod datblygiadau diweddar o fewn y gynghrair.

  • Pod 20: Goreuon 2021

    December 27th, 2021  |  34 mins 6 secs

    Goreuon 2021

    Cyfle i wrando nôl ar bigion gorau o’r pod dros y misoedd diwethaf yng nghwmni Sioned a Dylan

  • Pod 19: Rob Page

    December 21st, 2021  |  33 mins 36 secs

    Rheolwr Cymru, Robert Page sy’n ymuno â Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd ar gyfer ein podcast Nadoligaidd arbennig.

    Dyma gyfle i drafod y flwyddyn a fu ac i ddod i adnabod y gŵr o’r Rhondda yn well.

    Mwynhewch a Nadolig Llawen!

  • Pod 18: Rhys Griffiths

    December 16th, 2021  |  35 mins 35 secs

    Croso i pod rhif 18!

    Rhys Griffiths sy'n ymuno â Dylan a Sioned am sgwrs i drafod tymor Pen-y-bont hyd yma, gobeithion Ewropeaidd y clwb a'i yrfa llwyddiannus fel chwaraewr.

    Cyfle hefyd i glywed gan tri gwr doeth Y Seintiau Newydd wrth i Leo Smith rhoi gwers Cymraeg i Anthony Limbrick a Declan McManus.

    'Steddwch nôl a mwynhewch!

  • Pod 17: Aber-fest

    December 9th, 2021  |  42 mins 13 secs

    Pod 17: Aber-fest
    Golwg nôl ar y penwythnos yn y Cymru Premier, cip ar y Cymry ar draws y Cynghreiriau a chyfweliad gydag ymosodwr Aberystwyth a Chwaraewr y Mis Tachwedd, John Owen.

    Bydd hefyd cyfle i glywed gan tîm hyfforddi Aberystwyth cyn gêm fyw Sgorio rhwng Aberystwyth a’r Drenewydd – y gêm yn fyw ar Youtube, Facebook ac S4C Clic nos Wener, gyda’r gic gyntaf am 8.00

  • Pod 16: Ian Gwyn Hughes

    December 1st, 2021  |  56 mins 35 secs

    Ian Gwyn Hughes, pennaeth cyfathrebu’r Gymdeithas Bêl-droed sy’n ymuno â Dylan a Sioned am sgwrs i drafod y flwyddyn a fu.

    Am 12 mis i’r Gymdeithas; Cymru yn hawlio eu lle yn y gemau ail gyfle ar gyfer lle yng Nghwpan y Byd 2022 am y tro cyntaf ers 1958, dechrau arbennig i dîm y merched dan arweiniad Gemma Grainger, Prif Weithredwr newydd ac Euro 2020!

    Lot i’w drafod…

  • Pod 15: Goliau’r Cymry a Chymru yn yr het ar gyfer y gemau ail gyfle

    November 24th, 2021  |  32 mins 40 secs

    Pod 15: Goliau’r Cymry a Chymru yn yr het ar gyfer y gemau ail gyfle

    Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd sy’n edrych nôl dros y penwythnos yn y Cymru Premier ac yn edrych ‘mlaen at ddigwyddiadau ar y llwyfan rhyngwladol, lle bydd merched Cymru yn parhau eu hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd a bydd y dynion yn darganfod eu gwrthwynebwyr yn y gemau ail gyfle.

  • Pod 14: Cymru yn cyrraedd y gemau ail gyfle a phêl-droed y canolbarth

    November 17th, 2021  |  38 mins 43 secs

    Pod 14: Gemau ail gyfle Cwpan y Byd a phêl-droed y canolbarth

    Cyfle i edrych nôl ar wythnos fawr i Gymru wrth i’r tîm rhyngwladol gyrraedd gemau ail gyfle Cwpan y Byd 2022.

    Bydd ymosodwr Y Drenewydd, James Davies yn ymuno â Dylan a Sioned i drafod tymor y Robiniaid a phêl-droed canolbarth Cymru.

  • Pod 13: Ashley Williams

    November 10th, 2021  |  50 mins 46 secs

    Ashley Williams sy'n edrych ymlaen at Gemau Rhagbrofol Cwpan Y Byd yn erbyn Belarws a Gwlad Belg gyda Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer.

  • Pod 12: Mis Hydref yn y Cymru Premier gyda Mark Jones

    November 3rd, 2021  |  39 mins 43 secs

    Rheolwr Cymru C ac un o leisiau’r botwm coch, Mark Jones sy’n edrych nôl ar ddigwyddiadau mis Hydref yn y Cymru Premier gyda Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer.

    Cawn hefyd gyfle i glywed gan reolwr Cymru, Robert Page ar ôl iddo gyhoeddi ei garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 ym mis Tachwedd.

  • Pod 11: Andy Morrison

    October 27th, 2021  |  58 mins 7 secs

    Andy Morrison

    Rheolwr y Tymor 2020/21 sy’n ymuno â Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer am sgwrs hir yn edrych dros ei yrfa bêl-droed.

    Cawn gyfle i glywed am ei amser fel chwaraewr gyda Blackburn, Blackpool a Man City, a’i amser fel un o reolwyr gorau’r Cymru Premier dros y blynyddoedd diwethaf.

  • Pod 10: Huw Griffiths ac Aaron Williams

    October 21st, 2021  |  44 mins 27 secs

    Cyfle i edrych nôl ar holl hynt a helynt pedwaredd rownd Cwpan Cymru gyda Dylan a Sioned wrth i Bod Sgorio cyrraedd ei 10fed pennod.

    Bydd ymosodwr Y Drenewydd, Aaron Williams â rheolwr Caernarfon, Huw Griffiths yn ymuno a ni cyn i'r ddau dîm gwrdd â'i gilydd yn y gynghrair penwythnos yma.