Pod Sgorio

Podlediad Sgorio

About the show

Y gorau o gampau’r Cymry ar draws y cynghreiriau pêl-droed, croeso i Pod Sgorio.

Pod Sgorio on social media

Episodes

  • Pod 4: Wythnos ryngwladol Medi '21

    September 9th, 2021  |  32 mins 52 secs

    Cyfle i edrych nôl ar gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 mis Medi a rhagolwg o’r gemau yn y Cymru Premier dros y penwythnos.

    Bydd camerâu Sgorio yn fyw ar Goedlan y Parc ddydd Sadwrn, gydag Aberystwyth yn croesawu Met Caerdydd. Cawn glywed gan reolwr Aberystwyth, Antonio Corbisiero ac amddiffynnwr Met Caerdydd, Emlyn Lewis.

  • Pod 3: Awst 2021 yn y Cymru Premier gyda Mark Jones, rheolwr Cymru C

    September 2nd, 2021  |  30 mins 43 secs

    Rheolwr Cymru C ac un o leisiau’r botwm coch, Mark Jones sy’n taro golwg ar ddigwyddiadau mis Awst yn y Cymru Premier.

    Cyfweliad arbennig gydag MJ Williams, chwaraewr canol cae Bolton sy’n trafod dylanwad y Cymry ar y garfan ac edrych nôl ar y gêm gyfeillgar rhwng Y Ffindir a Chymru.

  • Pod 2: Owain Fôn Williams

    August 26th, 2021  |  51 mins 38 secs
    bale, cymraeg, cymru, football, fwtbol, gareth, gareth bale, peldroed, pod, podcast, s4c, sgorio, soccer, sports, wales, welsh

    Cyhoeddi Carfan Cymru ar gyfer gemau mis Medi, Gareth Bale yn sgorio yn La Liga am y tro cyntaf ers Medi 2019 i Real Madrid a’r Fflint yn fflio yn y Cymru Premier. Ein gwestai arbennig yw golwr Dunfermline a Chymru, Owain Fôn Williams.

  • Pod 1: Croeso i'r Pod! Penwythnos agoriadol tymor 2021/22

    August 18th, 2021  |  31 mins 6 secs

    Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer sy'n cyflwyno Pod cyntaf Sgorio. Golwg ar benwythnos agoriadol y Cymru Premier a cip ar y Cymry ar draws y cynghreiriau