Episode 81
Irate 1: Yr Hanes
May 22nd, 2023
14 mins 47 secs
Season 1
Your Hosts
Tags
About this Episode
Dyma stori yr Irate Eight: Bae Colwyn, Bangor, y Barri, Caernarfon, Casnewydd, y Drenewydd, Merthyr, a'r Rhyl.
Mewn cyfres arbennig gan bodlediad Sgorio fyddwn ni’n olrhain hanes ein cynghrair cenedlaethol, a’r wyth clwb cafodd yr alwad i ddychwelyd i Gymru yn 1992. Fe glywn ni wrth y cefnogwyr a’r chwaraewyr oedd yno ar y pryd, newn ni ddilyn hanes yr wyth clwb hyd heddiw, a gofyn shwt ma pethe am newid i’r clybiau yn y dyfodol.
Yn y bennod gynta, yr hanesydd Mei Emrys sy'n gosod y cyd-destun. Pam bod clybiau o Gymru yn chwarae yn Lloegr yn y lle cynta? Pa gynghreiriau oedd yn bodoli ar gyfer y clybiau oedd yn aros i chwarae yn y system ddomestig yma? Pam newid y drefn ar ddechrau’r 90au, a chyflwyno cynghrair cenedl-gyfan cynta yng Nghymru?
Diolch i holl gyfrannwyr y gyfres am eu hamser nhw – eu stori nhw yw hwn.
This is the story of the Irate Eight: Colwyn Bay, Bangor, Barry, Caernarfon, Newport, Newtown, Merthyr, and Rhyl.
In a special series by the Sgorio podcast we trace the history of our national league, and the eight clubs that were called to return to Wales in 1992. We will hear from the fans and players who were there at the time, we will follow the story of the eight clubs up to this day, and ask what the future holds in store.
In the first chapter, the historian Mei Emrys sets the context. Why did clubs from Wales play in England in the first place? What leagues existed for the clubs playing in the domestic system here? Why change the system at the beginning of the 90s, and introduce the first all-Wales league?
Thanks to all the contributors to the series for their time - this is their story.