Episode 82
Irate 2: Yr Wyth
May 23rd, 2023
18 mins 47 secs
Season 1
Your Hosts
Tags
About this Episode
Dyma stori yr Irate Eight: Bae Colwyn, Bangor, y Barri, Caernarfon, Casnewydd, y Drenewydd, Merthyr, a'r Rhyl.
Mewn cyfres arbennig gan bodlediad Sgorio fyddwn ni’n olrhain hanes ein cynghrair cenedlaethol, a’r wyth clwb cafodd yr alwad i ddychwelyd i Gymru yn 1992. Fe glywn ni wrth y cefnogwyr a’r chwaraewyr oedd yno ar y pryd, newn ni ddilyn hanes yr wyth clwb hyd heddiw, a gofyn shwt ma pethe am newid i’r clybiau yn y dyfodol.
Yn ail bennod y gyfres, edrychwn ni ar y cyfnod yn arwain at ddechrau'r gynghrair newydd yng Nghymru. Pwy oedd yr Irate Eight? Sut lwyddiant gath y clybiau yn y ddegawd cynt? Pam brwydro yn erbyn yr alwad i ddod nol?
Diolch i holl gyfrannwyr y gyfres am eu hamser nhw – eu stori nhw yw hwn.
This is the story of the Irate Eight: Colwyn Bay, Bangor, Barry, Caernarfon, Newport, Newtown, Merthyr, and Rhyl.
In a special series by the Sgorio podcast we trace the history of our national league, and the eight clubs that were called to return to Wales in 1992. We will hear from the fans and players who were there at the time, we will follow the story of the eight clubs up to this day, and ask what the future holds in store.
In the second episode of the series, we look at the period leading up to the start of the new league in Wales. Who were the Irate Eight? How successful were the clubs in the previous decade? Why fight the call to come back to Wales?
Thanks to all the contributors to the series for their time - this is their story.